Hanes Pice ar y Maen
Mae modd olrhain pice ar y maen i un o'r ffurfiau cynharaf ar bobi, lle byddai maen neu lechfaen yn cael ei osod ar dân agored. Yna byddai'r maen yn cael ei ddefnyddio fel arwyneb coginio ar gyfer y Pice ar y Maen, rhywbeth yn debyg i blât poeth heddiw. Byddai cymysgedd y Pice ar y Maen yn cael ei osod ar y maen i'w goginio ar un ochr yn gyntaf ac yna byddai'n cael ei droi i gwblhau'r coginio. Ynglŷn â Tan Y Castell Welshcakes Sefydlwyd Tan Y Castell Welshcakes 12 mlynedd yn ôl ac mae'n cyflenwi amrywiaeth fawr o gwsmeriaid gan gynnwys 4 o Archfarchnadoedd Cenedlaethol. Rydym yn cyflenwi Tan Y Castell Welshcakes i'r farchnad amgylchfwyd a'r farchnad rewfwyd fel ei gilydd. Sut i fwyta Tan Y Castell Welshcakes
Gallech chi fwyta Tan Y Castell Welshcakes yn syth o'r paced neu efallai y byddai'n well gennych chi roi menyn ar y Pice ar y Maen a / neu ysgeintio siwgr arnyn nhw. Fe allech chi hefyd ddefnyddio cwcer microdon i aildwymo'r Pice ar y Maen er mwyn eu mwynhau tra maen nhw'n gynnes. Os byddwch chi'n defnyddio cwcer microdon dylech eu twymo am 20 eiliad fesul Pic ar y Maen ar osodiad isel. Gofalwch nad ydych chi'n eu gordwymo gan y bydd y ffrwythau y tu mewn i'r Pice ar y Maen yn dod yn boeth iawn. Sut i storio Tan Y Castell Welshcakes Gallwch chi storio Tan Y Castell Welshcakes mewn lle sych ac oer. Mae'r Pice ar y Maen yma hefyd yn addas i'w rhewi gartref a byddan nhw'n cadw'n dda am 3 mis.
Tan Y Castell Welshcakes, Uned 1, Parc Busnes Gorllewin Cymru, Heol Redstone, Arberth, Sir Benfro, SA67 7ES